Mae Tomograffeg Allyrru Positronau - Tomograffeg Gyfrifedig neu PET/CT yn cyfuno dau fath o dechnegau sganio, sef tomograffeg allyrru positronau (PET) a thomograffeg gyfrifedig (CT).
Mae delweddau Tomograffeg Gyfrifedig (CT) yn darparu gwybodaeth anatomegol tra bo Tomograffeg Allyrru Positronau (PET) yn dangos gweithgarwch a gweithrediad. Drwy osod y ddelwedd PET dros y ddelwedd CT, cyfunir y wybodaeth anatomegol â’r wybodaeth am weithgarwch.
Gellir cyfuno delweddau a gafwyd o ddyfeisiau PET a CT mewn un ddelwedd arosodedig (PET/CT). Mae'r ddelwedd hon yn rhoi gwybodaeth ddiagnostig bwysig yn ogystal ag yn asesu pa mor effeithiol yw’r driniaeth am ganser. Yna trosglwyddir yr olinydd radiofferyllol allan o'r corff drwy’r wrin neu symudiadau’r coluddyn.
Mae tri phrif fath o sganiau PET/CT ac mae’r prosesau ar gyfer pob un yn debyg iawn. Fodd bynnag, mae rhai gwahaniaethau a dylech fod yn ymwybodol o'r rhain cyn eich sgan.
Yn dilyn ymgynghoriad â'ch clinigwr (e.e. meddyg teulu neu feddyg ymgynghorol), bydd ef/hi yn llenwi ac yn llofnodi ffurflen atgyfeirio. Ar ôl i'r atgyfeiriad gael ei brosesu, byddwch yn cael gwybod am ddyddiad ac amser eich apwyntiad.
Rydym hefyd yn derbyn atgyfeiriadau preifat.
Os oes diabetes arnoch chi, darllenwch yr adran o'r enw Canllawiau Paratoi i Gleifion Diabetig ar gyfer sgan PET/CT.
Oni bai ein bod yn dweud wrthych fel arall, peidiwch â chael unrhyw beth i'w fwyta nac yfed, ac eithrio dŵr, am chwe awr cyn eich apwyntiad. Fodd bynnag, bydd o gymorth os byddwch chi'n yfed 4 neu 5 gwydraid o ddŵr plaen.
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw anableddau fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth o'r ansawdd uchaf i chi.
Cadarnhewch eich apwyntiad dros y ffôn, ar 01792 517965, 24 awr cyn eich sgan a chyrhaeddwch mewn da bryd.
Mae croeso i chi ddod â ffrind neu berthynas gyda chi, ond am resymau diogelwch nid ydym fel rheol yn eu caniatáu i mewn i'r ystafell archwilio. Mae’n bwysig nad yw eich ffrind neu berthynas benywaidd yn feichiog.
Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n cyrraedd erbyn yr amser rydym ni wedi ei roi i chi. Bydd angen i ni roi pigiad i chi (ceir gwybodaeth isod am baratoi ar gyfer y sgan) ac nid yw’r pigiad hwn yn goroesi’n hir. Felly os byddwch chi'n hwyr efallai na fyddwn yn gallu ei ddefnyddio a bydd yn rhaid canslo'ch apwyntiad.
Efallai y byddwn hefyd yn rhoi meddyginiaeth i chi i wella canlyniadau'r sgan. Os credwn fod hyn yn angenrheidiol, byddwn yn ei drafod gyda chi cyn eich sgan, ond ni fyddwch yn gallu gyrru wedi hynny, felly bydd angen i chi wneud trefniadau i rywun eich casglu.
Peidiwch ag anghofio dod â'ch llythyr apwyntiad gyda chi.
Ar ôl i chi gofrestru eich presenoldeb yn y dderbynfa, bydd aelod o'r tîm radioleg yn cwrdd â chi, yn esbonio'r broses ar gyfer y sgan, yn mynd trwy'ch holiadur diogelwch gyda chi ac yn gofyn i chi lofnodi ffurflen gydsynio. Byddwch yn cael cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau am y broses sganio.
Efallai y byddwn yn gofyn i chi newid a gwisgo gwn ysbyty. Byddwn yn darparu lle i storio'ch eiddo personol.
Trwy gydol y driniaeth, bydd y tîm radioleg yn gofalu amdanoch. Byddant yn egluro beth sy'n digwydd a byddant yno os byddwch chi'n profi unrhyw anghysur.
Bydd angen i ni eich chwistrellu ag olinydd radiofferyllol. Pigiad bach yw hwn (nid yw’n ddim gwaeth na chael prawf gwaed).
Ar ôl y pigiad, bydd angen i chi orwedd yn llonydd heb siarad am ryw awr, er mwyn i'r olinydd radiofferyllol gael ei amsugno i'ch corff.
Yna byddwn yn gofyn i chi wagio'ch pledren, ac ar ôl hynny byddwch chi'n barod am y sgan.
Bydd y radiograffydd/technolegydd sy'n gweithio'r sganiwr yn gallu eich gweld a'ch clywed trwy gydol y driniaeth.
Byddwn yn gofyn i chi orwedd ar wely'r sganiwr a byddwn yn sicrhau eich bod yn gyfforddus fel y gallwch aros mor llonydd â phosibl. Ni fyddwch yn teimlo unrhyw beth.
Mae'r mwyafrif o sganiau'n cymryd rhwng 30 munud ac awr.
Mae croeso i chi ddod â ffrind neu berthynas gyda chi, ond am resymau diogelwch nid ydym fel rheol yn caniatáu iddynt ddod i mewn i'r ystafell archwilio.
Peidiwch â gyrru os cawsoch gyfarwyddyd i beidio.
Yfwch ddigon er mwyn helpu i fflysio'r olinydd radiofferyllol o'ch corff.
Rydym yn argymell yn gryf na ddylech ddod i gysylltiad agos ag unrhyw ferched beichiog na phlant ifanc am wyth awr yn dilyn y sgan.
Bydd radiolegydd yn archwilio'r delweddau yn fuan ar ôl eich ymweliad ac yn anfon adroddiad at eich meddyg teulu neu eich meddyg ymgynghorol, fel arfer o fewn ychydig ddyddiau.
Am resymau moesegol a phroffesiynol, ni allwn drafod y canlyniadau gyda chi. Dim ond eich meddyg teulu neu eich meddyg ymgynghorol all wneud hyn.
Wrth baratoi ar gyfer eich Sgan PET/CT, cadwch at y canllawiau canlynol:
Wrth baratoi ar gyfer eich Sgan PET/CT, cadwch at y canllawiau canlynol:
Dilynwch y canllawiau paratoi ar gyfer ‘Diabetes dan Reolaeth Heb Inswlin’ uchod.