Mae’r arbenigwr sydd wedi eich cyfeirio atom wedi penderfynu y dylech gael sgan PET/CT fel rhan o'ch gofal yn yr ysbyty hwn. Mae’r sgan yn hynod fuddiol gan ei bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn a fydd yn helpu i benderfynu ar y math o driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y sgan, yn ogystal â rhai pethau y bydd angen i chi eu gwybod a'u gwneud o flaen llaw. Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i chi a'ch bod yn cael y gorau o'ch sgan.
Mae sgan PET/CT yn cynnwys dau fath o sgan neu ‘ddelweddu’:
Mae PET (Tomograffeg Allyrru Positronau) yn defnyddio meintiau bach iawn o siwgr ymbelydrol (18F-FDG). Ar ôl ei chwistrellu i un o'ch gwythiennau, mae’r siwgr ymbelydrol i'w weld ar y sgan ac yn dangos sut mae rhannau o'ch corff yn gweithredu.
Mae CT (Tomograffeg Gyfrifedig) yn defnyddio pelydrau-X i gynhyrchu delweddau o ddwysedd neu drwch gwahanol organau yn eich corff.
Drwy gyfuno'r ddwy ddelwedd, gall sgan PET/CT ddangos pa mor dda y mae rhai rhannau o'ch corff yn gweithio, yn ogystal â dangos sut maen nhw’n edrych. Rydych chi'n cael llun mewnol manwl a chywir iawn y gall yr arbenigwr sydd wedi eich cyfeirio atom ei ddefnyddio i helpu i wneud diagnosis, yn ogystal â phenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol os oes angen hynny.
Mae sganiau PET/CT yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ymchwilio i achosion o ganser a gadarnhawyd, i weld faint mae'r canser wedi lledaenu a pha mor dda y mae'n ymateb i driniaeth. Weithiau defnyddir sganiau PET/CT i helpu i gynllunio llawdriniaethau, fel llawfeddygaeth ar yr ymennydd ar gyfer epilepsi. Gallant hefyd helpu i ddiagnosio rhai cyflyrau sy'n effeithio ar y ffordd mae’r ymennydd yn gweithio, fel dementia.
Prif fantais y prawf yw gwneud y diagnosis cywir neu ganiatáu i ni fonitro eich triniaeth yn effeithiol. Cofiwch fod eich arbenigwr wedi penderfynu bod y sgan hwn o fudd i chi.
Mae prosesau Meddygaeth Niwclear ymhlith y profion mwyaf diogel ar gyfer delweddu diagnostig. Bydd y mesur o ymbelydredd a geir yn ystod sgan PET/CT wedi'i gymeradwyo gan arbenigwr delweddu a'i deilwra'n benodol i chi. Mae'r mesur arferol o ymbelydredd a geir yn sgil yr archwiliad cyfan tua'r un fath ag y byddech yn ei dderbyn yn naturiol dros saith mlynedd, felly ystyrir bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef yn isel. Hefyd, ni cheir unrhyw dystiolaeth bod sgil-effeithiau’n gysylltiedig â’r olinydd ymbelydrol.
Ni fydd y sgan yn anghyfforddus, ar wahân i’r pigad bach y byddwch yn ei deimlo wrth gael y pigiadau. Bydd angen i chi aros yn llonydd tra bydd y lluniau'n cael eu tynnu ond fe’ch gwneir mor gyfforddus â phosibl.
Unwaith y bydd y sgan wedi'i gwblhau a'ch bod wedi defnyddio'r toiled, bydd croeso i chi adael cyn gynted ag y byddwch yn teimlo'n barod. Gallwch fwyta ac yfed yn syth ar ôl y sgan. Yfwch 4-5 gwydraid o ddŵr a gwagio eich pledren yn aml, er mwyn fflysio unrhyw olion o’r olinydd o’ch arennau. Bydd hyn yn gostwng y dos o ymbelydredd i'ch pledren a'ch pelfis.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw i ffwrdd oddi wrth fenywod beichiog a phlant ifanc am tua 8 awr tra bydd yr olinydd ymbelydrol yn dal yn eich system.
Ni fyddwch yn cael y canlyniadau ar ddiwrnod eich sgan. Bydd ein Radiolegydd Ymgynghorol yn dadansoddi eich sgan ac anfonir adroddiad at yr arbenigwr a wnaeth eich atgyfeirio am eich sgan o fewn wythnos i’w gael.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn weithiau gael anawsterau technegol gyda'r sganiwr neu'r pigiad (sy'n cael ei gynhyrchu oddi ar y safle). Ar yr achlysuron prin hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl a byddwn yn trefnu apwyntiad newydd gyda chi.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad, cysylltwch â ni ar 01792 517 965 neu fel arall ar 01792 285 295.
Ar ôl eich sgan, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur “Ffrindiau a Theulu”. Rydyn ni am ddarparu'r gofal gorau posibl i'n holl gleifion felly hoffem glywed gennych am eich profiad – am y pethau a wnaethom yn dda a’r agweddau y gallem ni wella arnynt. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich profiad, gallwch hefyd siarad yn uniongyrchol ag aelod o'r tîm.
Gallwch ddarparu'ch sylwadau trwy: