PET/CT-Abertawe
Sganiau PET/CT 18F-PSMA
Gwybodaeth i Gleifion
Canllaw ar gyfer eich Sgan PET/CT 18F-PSMA
Mae’r arbenigwr sydd wedi eich cyfeirio atom wedi penderfynu y dylech gael sgan PET/CT fel rhan o'ch gofal yn yr ysbyty hwn. Mae’r sgan yn hynod fuddiol gan ei bod yn darparu llawer o wybodaeth ddefnyddiol iawn a fydd yn helpu i benderfynu ar y math o driniaeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y sgan, yn ogystal â rhai pethau y bydd angen i chi eu gwybod a'u gwneud o flaen llaw. Bydd hyn yn ein helpu i wneud yn siŵr bod popeth yn rhedeg yn esmwyth i chi a'ch bod yn cael y gorau o'ch sgan.
Darllenwch y dudalen hon yn ofalus ac os oes unrhyw gwestiynau neu bryderon, ffoniwch yr adran ar 01792 517 965.
Lawrlwythwch y daflen wybodaeth.
Gwybodaeth a Chanllaw i Gleifion – Sgan PET/CT 18F- PSMA
Beth yw Sgan PET/CT 18F-PSMA?
Mae sgan PET/CT yn cynnwys dau fath o sgan neu ‘ddelweddu’:
Mae PET (Tomograffeg Allyrru Positronau) yn defnyddio meintiau bach iawn o siwgr ymbelydrol (18F-PSMA). Ar ôl ei chwistrellu i un o'ch gwythiennau, mae’r siwgr ymbelydrol i'w weld ar y sgan ac yn dangos sut mae rhannau o'ch corff yn gweithredu.
Mae CT (Tomograffeg Gyfrifedig) yn defnyddio pelydrau-X i gynhyrchu delweddau o ddwysedd neu drwch gwahanol organau yn eich corff.
Drwy gyfuno'r ddwy ddelwedd, gall sgan PET/CT ddangos pa mor dda y mae rhai rhannau o'ch corff yn gweithio, yn ogystal â dangos sut maen nhw’n edrych. Rydych chi'n cael llun mewnol manwl a chywir iawn y gall yr arbenigwr sydd wedi eich cyfeirio atom ei ddefnyddio i helpu i wneud diagnosis, yn ogystal â phenderfynu ar y driniaeth fwyaf effeithiol os oes angen hynny.
Mae sganiau PET/CT yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer ymchwilio i achosion o ganser a gadarnhawyd, i weld faint mae'r canser wedi lledaenu a pha mor dda y mae'n ymateb i driniaeth.
Paratoi ar gyfer eich sgan
- Cymerwch eich holl feddyginiaeth reolaidd yn ôl yr arfer a dewch â rhestr o'ch meddyginiaeth gyda chi i'ch apwyntiad;
-
Osgowch weithgareddau egnïol ac ymarfer corff am 24 awr cyn eich apwyntiad. Why?
- Mae angen i chi ymlacio a gorffwys cymaint â phosibl. Bydd defnydd ymbelydrol diangen mewn cyhyrau actif yn effeithio ar ansawdd eich sgan.
-
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch hun yn gynnes am 12 awr cyn eich sgan, a dewch â dillad cynnes i'ch apwyntiad gyda chi. Why?
- Os byddwch yn oer, efallai y bydd mwy o olinydd ymbelydrol yn eich cyhyrau a’ch meinweoedd eraill. Gallai hyn effeithio ar ansawdd eich sgan.
-
Os yw'n bosibl, gwisgwch ddillad llac heb sipiau/botymau metel a gwisgwch gyn lleied o emwaith â phosib. Byddwn yn gallu darparu dillad addas fel arall. Why?
-
Bydd angen i chi dynnu unrhyw emwaith neu wrthrychau metalig, gan y bydd metelau’n effeithio ar y delweddau. Allwn ni ddim â gwarantu y bydd eitemau gwerthfawr yn cael eu cadw’n ddiogel, felly efallai y byddai’n well gennych chi eu gadael gartref.
-
Os byddwch chi’n rhedeg yn hwyr neu os na fydd yn bosib i chi ddod i’r apwyntiad, rhaid i chi roi gwybod i ni AR UNWAITH. Dylech anelu at gyrraedd 15 munud cyn eich apwyntiad. Why?
-
Byddwch yn cael pigiad ar gyfer y sgan. Bydd y pigiad hwn wedi’i gynhyrchu’n benodol ar eich cyfer chi ac nid yw’n goroesi’n hir. Os byddwch yn hwyr, efallai na fydd yn bosib i ni wneud eich sgan.
Os ydych chi’n meddwl y byddwch yn hwyr, neu ddim yn meddwl y gallwch ddod, ffoniwch ni ar 01792 517 965 cyn gynted ag sy’n bosib.
-
Gallwch ddod â ffrind neu berthynas gyda chi, ar yr amod eu bod dros 18 oed ac nad ydynt yn feichiog. Fodd bynnag, bydd yn rhaid iddynt fod yn yr ystafell aros yn ystod eich apwyntiad.
-
Os ydych chi’n glawstroffobig, gofynnwch i staff yr ysbyty cyn diwrnod y sgan am y posibilrwydd o gael tawelydd ysgafn i'ch helpu i ymlacio. Weithiau gall yr arbenigwr a wnaeth eich atgyfeirio hefyd benderfynu rhoi tawelydd i chi er mwyn cael gwell canlyniadau o'ch sgan. Trafodir hyn gyda chi cyn eich apwyntiad. Gofynnir i chi beidio â gyrru am 24 awr ar ôl cael y sgan, gan efallai na fydd yn ddiogel gwneud hynny.
-
Dylech ddisgwyl bod yn yr adran am 2-3 awr.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y sgan?
-
Ar ôl cofrestru yn y dderbynfa, byddwn yn eich tywys i ardal baratoi breifat;
- Efallai y gofynnir i chi newid i mewn i ŵn a thynnu gemwaith neu wrthrychau metalig;
- Byddwn yn gofyn am grynodeb byr o’ch hanes meddygol a byddwn yn esbonio’r broses o gael y sgan;
- Weithiau, bydd staff clinigol sy’n derbyn hyfforddiant dan oruchwyliaeth yn bresennol. Dywedwch wrthym os nad ydych chi’n gyfforddus gyda hyn;
- Bydd nodwydd fach yn cael ei rhoi mewn gwythïen yn eich braich/llaw. Yna caiff yr olinydd ymbelydrol ei chwistrellu;
-
Ar ôl y pigiad, bydd angen i chi orffwys a pharhau i orwedd yn gyfforddus am tua 2 awr tra bydd yr olinydd ymbelydrol yn cael ei amsugno i’ch corff. Gofynnir i chi osgoi siarad oherwydd gall symud a siarad effeithio ar ble mae'r olinydd ymbelydrol yn mynd yn eich corff;
- Yn union cyn eich sgan, byddwn yn gofyn i chi wagio’ch pledren.
- Yn yr ystafell sganio, gofynnir i chi orwedd ar eich cefn ar y gwely sganio gyda'ch breichiau wedi'u cynnal uwch eich pen. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn eich sganio gyda'ch breichiau wrth eich ochr;
-
Bydd y gwely yn symud drwy gylch y sganiwr ac yn casglu delweddau am rhwng 15 a 60 munud, gan ddibynnu ar y math o sgan sydd ei angen;
- Mae’n hollbwysig eich bod yn aros yn llonydd drwy gydol y sgan.
Manteision, Peryglon a Sgil-effeithiau
Prif fantais y prawf yw gwneud y diagnosis cywir neu ganiatáu i ni fonitro eich triniaeth yn effeithiol. Cofiwch fod eich arbenigwr wedi penderfynu bod y sgan hwn o fudd i chi.
Mae prosesau Meddygaeth Niwclear ymhlith y profion mwyaf diogel ar gyfer delweddu diagnostig. Bydd y mesur o ymbelydredd a geir yn ystod sgan PET/CT wedi'i gymeradwyo gan arbenigwr delweddu a'i deilwra'n benodol i chi. Mae'r mesur arferol o ymbelydredd a geir yn sgil yr archwiliad cyfan tua'r un fath ag y byddech yn ei dderbyn yn naturiol dros saith mlynedd, felly ystyrir bod y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef yn isel. Hefyd, ni cheir unrhyw dystiolaeth bod sgil-effeithiau’n gysylltiedig â’r olinydd ymbelydrol.
Ni fydd y sgan yn anghyfforddus, ar wahân i’r pigad bach y byddwch yn ei deimlo wrth gael y pigiadau. Bydd angen i chi aros yn llonydd tra bydd y lluniau'n cael eu tynnu ond fe’ch gwneir mor gyfforddus â phosibl.
Ar ôl y sgan
Unwaith y bydd y sgan wedi'i gwblhau a'ch bod wedi defnyddio'r toiled, bydd croeso i chi adael cyn gynted ag y byddwch yn teimlo'n barod. Gallwch fwyta ac yfed yn syth ar ôl y sgan. Yfwch 4-5 gwydraid o ddŵr a gwagio eich pledren yn aml, er mwyn fflysio unrhyw olion o’r olinydd o’ch arennau. Bydd hyn yn gostwng y dos o ymbelydredd i'ch pledren a'ch pelfis.
Rydym yn argymell eich bod yn cadw i ffwrdd oddi wrth fenywod beichiog a phlant ifanc am tua 8 awr tra bydd yr olinydd ymbelydrol yn dal yn eich system.
Pryd byddaf yn cael fy nghanlyniadau?
Ni fyddwch yn cael y canlyniadau ar ddiwrnod eich sgan. Bydd ein Radiolegydd Ymgynghorol yn dadansoddi eich sgan ac anfonir adroddiad at yr arbenigwr a wnaeth eich atgyfeirio am eich sgan o fewn wythnos i’w gael.
Gwybodaeth Bwysig
- Os ydych chi'n cael triniaeth dialysis, cysylltwch â'r adran (oni bai eich bod eisoes wedi trafod hyn gyda ni).
- Peidiwch â rhoi samplau o waed neu wrin yn ystod y 24 awr gyntaf ar ôl eich apwyntiad sgan PET/CT.
- Parhewch i gymryd unrhyw feddyginiaeth sydd wedi'i rhagnodi ar eich cyfer chi.
- Osgowch unrhyw ymarfer corff dwys am 24 awr cyn eich apwyntiad.
- Cadwch yn gynnes am 12 awr cyn eich apwyntiad, a dewch â dillad cynnes gyda chi.
- Cyrhaeddwch yr adran yn brydlon ar yr amser a'r dyddiad a roddir ar du blaen y daflen hon.
- Ar ôl cyrraedd, ewch i’r dderbynfa ar gyfer sganiau PET/CT. Dangosir map o'r ysbyty ar waelod y dudalen hon.
-
Os rhoddir tawelydd i chi, gofynnir i chi beidio â gyrru am 24 awr yn dilyn eich sgan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio sut y byddwch yn cyrraedd adref.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn weithiau gael anawsterau technegol gyda'r sganiwr neu'r pigiad (sy'n cael ei gynhyrchu oddi ar y safle). Ar yr achlysuron prin hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl a byddwn yn trefnu apwyntiad newydd gyda chi.
Cwestiynau?
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad, cysylltwch â ni ar 01792 517 965 neu fel arall ar 01792 285 295.
Cyrraedd ar gyfer eich Sgan
Eich Adborth
Ar ôl eich sgan, byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur “Ffrindiau a Theulu”. Rydyn ni am ddarparu'r gofal gorau posibl i'n holl gleifion felly hoffem glywed gennych am eich profiad – am y pethau a wnaethom yn dda a’r agweddau y gallem ni wella arnynt. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich profiad, gallwch hefyd siarad yn uniongyrchol ag aelod o'r tîm.
Gallwch ddarparu'ch sylwadau trwy:
-
Ddefnyddio'r ffurflen “Cysylltu” ar ein gwefan: Cliciwch yma i roi'ch sylwadau gan ddefnyddio'r ffurflen gysylltu ar ein gwefan
- Cysylltu â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) dros y ffôn 01792 205666, estyniad 37517 neu 37518
- Ysgrifennu at: Monica Martins, Arweinydd Tîm Clinigol, Meddygaeth Niwclear a PET-CT, Ysbyty Singleton, Lôn Sgeti, Abertawe SA2 8QA.