O 1 Gorffennaf 2020, bydd gan Ysbyty Singleton uned symudol Alliance Medical Limited (AML) i ddarparu sganiau PET/CT ar gyfer cleifion Abertawe a De-orllewin Cymru.
Bydd yr Uned Sganiau Tomograffeg Allyrru Positronau - Tomograffeg Gyfrifedig Symudol (a fydd wedi'i lleoli y tu allan i Neuadd Crush yn Ysbyty Singleton ar ddydd Iau/dydd Gwener) yn darparu sganiau PET/CT ar gyfer Byrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda. Bydd y gwasanaeth hefyd ar gael i rai cleifion yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae sgan PET/CT yn dechneg ddelweddu meddygaeth niwclear sy'n cynhyrchu delwedd neu lun tri dimensiwn o brosesau swyddogaethol yn y corff. Pwrpas sgan PET yw gwella diagnosis a chynllunio triniaeth ar gyfer rhai o’r arwyddion a achosir gan ganser.
Mae PET/CT yn dechneg ddelweddu heb lawdriniaeth sy'n cyfuno gwybodaeth o ddau fodd gwahanol. Mae PET yn darparu gwybodaeth am weithgareddau metabolaidd a gweithrediadol y celloedd, tra bydd sganiwr CT yn dangos lleoliadau anatomegol manwl gywir.
Mae'r sgan fel arfer yn golygu bod olinydd radiofferyllol yn cael ei chwistrellu i'r corff. Gall yr olinydd radiofferyllol fod yn siwgwr (glwcos), yn asid amino, neu’n fitamin. Mae'r olinydd radiofferyllol yn cael ei ddefnyddio a'i gronni mewn celloedd sy'n gweithredu’n fetabolig (fel celloedd malaen). Mae'r olinydd yn allyrru pelydrau gama, a gaiff eu canfod gan y sganiwr PET a CT i gynhyrchu delweddau lliw o'r corff. Mae lliwiau’r delweddau wedi’u codio, gan amlygu gweithgarwch celloedd sy’n normal a chelloedd sy’n falaen.
Gall y delweddau a geir gan ddyfeisiau PET a CT gael eu cyfuno’n un ddelwedd arosodedig (PET/CT). Mae'r ddelwedd hon yn rhoi gwybodaeth ddiagnostig bwysig, yn ogystal ag yn asesu pa mor effeithiol yw’r driniaeth ar gyfer canser. Yna trosglwyddir yr olinydd radiofferyllol allan o'r corff drwy’r wrin neu symudiadau’r coluddyn.
Hyd nawr, mae cleifion De-orllewin Cymru wedi gorfod teithio i Gaerdydd i gael sgan PET/CT, ond bellach bydd llawer llai o deithio’n digwydd, diolch i gydweithredu ar draws Cymru gyfan, sef rhwng clinigwyr, y byrddau iechyd, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC) a Llywodraeth Cymru.
Sefydlwyd WHSCC yn 2010 i “sicrhau bod gan boblogaeth Cymru fynediad teg a chyfiawn i’r ystod lawn o wasanaethau arbenigol”.
Bydd y gwasanaeth symudol yn helpu i leihau amseroedd aros, yn ogystal â sicrhau bod sganiau ac adroddiadau sganiau’n cael eu trosglwyddo'n hawdd rhwng gwahanol feddygon ac ysbytai, mewn lleoliadau a fydd yn fwy cyfleus i gleifion.
"Fy nod i yw dod â gwasanaethau diagnostig modern i boblogaeth o tua 1 miliwn yn Ne-orllewin Cymru. Y gwasanaeth PET/CT yw'r cyntaf o blith sawl newid fel hyn mewn meddygaeth niwclear, a fydd er budd ein cleifion."
"Mae hyn yn newyddion gwych i gleifion De-orllewin Cymru, sef ei bod yn haws iddynt gael y math yma o sganiau ar adegau anodd yn eu bywydau.”
"Rydym ni’n falch iawn i ni allu comisiynu sganiwr PET symudol yn Ysbyty Singleton, a fydd yn gwella hygyrchedd i gleifion o Dde-orllewin Cymru ac yn cynyddu capasiti a chynaliadwyedd cyffredinol ar gyfer sganiau ar draws De Cymru a de Powys."
"Mae hwn yn ddatblygiad pwysig ar gyfer ehangu gwasanaethau Tomograffeg Allyrru Positronau - Tomograffeg Gyfrifedig (PET/CT) yng Nghymru. Bellach, bydd gan gleifion yn Ne-orllewin Cymru fynediad gwell at offeryn diagnostig allweddol sy'n galluogi diagnosis cyflymach, ac rydym yn disgwyl y bydd yn gwella ansawdd y triniaethau ar gyfer canser a chyflyrau eraill yn sylweddol. Rydym yn bartneriaid gyda Bwrdd Rhaglen Strategol PET/CT WHSSC ac yn falch o fod yn rhan o ddarparu'r gwasanaeth allweddol hwn."